{
    "about.introOne": "Scratch yw cymuned codio fwyaf yn y byd ar gyfer plant ac yn iaith codio sydd â rhyngwyneb gweledol syml sy'n caniatáu i bobl ifanc greu straeon digidol, gemau ac animeiddiadau. Mae Scratch wedi ei gynllunio, ei ddatblygu a'i gymedroli gan {foundationLink}, sy'n gorff dim-er-elw.    ",
    "about.introTwo": "Mae Scratch yn hyrwyddo meddwl yn gyfrifiannol a sgiliau datrys problemau; dysgu ac addysgu creadigol; hunanfynegiant a chydweithio; a thegwch mewn cyfrifiadura.",
    "about.introThree": "Mae Scratch ar gael yn rhad ac am ddim ac mewn mwy na 70 o ieithoedd.",
    "about.foundationText": "Scratch Foundation",
    "about.introParents": "Gwybodaeth ar gyfer rhieni",
    "about.introEducators": "Gwybodaeth ar gyfer addysgwyr",
    "about.whoUsesScratch": "Pwy sy'n defnyddio Scratch?",
    "about.whoUsesScratchDescription": "Mae Scratch the wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed, ond mae'n cael ei ddefnyddio gan bobl o bob oed. Mae miliynau o bobl yn creu projectau Scratch gwahanol lefydd,  gan gynnwys cartrefi, amgueddfeydd,  llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.",
    "about.aroundTheWorld": "O Amgylch y Byd",
    "about.aroundTheWorldDescription": "Mae Scratch yn cael ei ddefnyddio mewn mwy na {countryCount} o wahanol wledydd ac ar gael mewn mwy na {languageCount} iaith. I newid ieithoedd, cliciwch y ddewislen ar waelod y dudalen. Neu, yn y Golygydd Project, cliciwch y glôb ar frig y dudalen. I ychwanegu neu wella cyfieithiad, ewch i dudalen {translationLink}.",
    "about.translationLinkText": "cyfieithiad",
    "about.quotes": "Dyfyniadau",
    "about.quotesDescription": "Mae Tîm Scratch wedi derbyn llawer o e-byst gan bobl; ifanc, rhieni ac addysgwyr yn diolch am Scratch. Hoffech chi weld beth mae pobl eraill yn ei ddweud am Scratch? Gallwch weld casgliad o'r {quotesLink} rydym wedi eu derbyn.",
    "about.quotesLinkText": "dyfyniadau",
    "about.learnMore": "Dysgu Rhagor am Scratch",
    "about.learnMoreFaq": "Cwestiynau Cyffredin",
    "about.learnMoreParents": "Gwybodaeth ar gyfer Rhieni",
    "about.learnMoreEducators": "Gwybodaeth ar gyfer Addysgwyr",
    "about.learnMoreAnnualReport": "Adroddiad Blynyddol",
    "about.literacy": "Dysgu Codio. Codio i Ddysgu",
    "about.literacyImageDescription": "Delwedd o Mitch Resnick yn rhoi sgwrs TED o'r enw \"Let's Teach Kids to Code.\" Mae botwm chwarae yng nghanol y ddelwedd.",
    "about.literacyDescription": "Yn y <a>sgwrs TED</a> hon, mae sylfaenydd Scratch, Mitch Resnick, yn disgrifio pam mae’r gallu i godio rhaglenni cyfrifiadurol yn rhan bwysig o lythrennedd yn y gymdeithas sydd ohoni. Pan fydd pobl yn dysgu codio yn Scratch, maen nhw'n dysgu strategaethau pwysig ar gyfer datrys problemau, dylunio projectau, a chyfathrebu syniadau.",
    "about.schools": "Scratch mewn Ysgolion",
    "about.schoolsDescription": "Mae dysgwyr yn dysgu gyda Scratch ar bob lefel (o ysgolion cynradd i brifysgolion) ac ar draws pynciau (megis mathemateg, cyfrifiadureg, celf, ieithoedd, gwyddorau cymdeithas). Mae adnoddau addysgwyr ar gael ar dudalen {scratchForEducatorsLink}.",
    "about.scratchForEducatorsLinkText": "Scratch ar gyfer Addysgwyr",
    "about.scratchedLinkText": "Gwefan ScratchEd",
    "about.research": "Ymchwil",
    "about.researchDescription": "Mae'r {lifelongKindergartenGroupLink} a'i gydweithwyr yn {researchLink} i sut mae pobl ifanc yn creu, cydweithio a dysgu gyda Scratch. Am drosolwg, darllenwch yr erthygl {codingAtACrossroadsLink} a'r llyfr {lifelongKindergartenBookLink}. I wybod rhagor am y defnydd o Scratch, gwelwch dudalen {statisticsLink} ac {annualReportLink} Scratch.",
    "about.researchLinkText": "ymchwilio",
    "about.statisticsLinkText": "ystadegau",
    "about.lifelongKindergartenGroupLinkText": "Lifelong Kindergarten group",
    "about.codingAtACrossroadsLinkText": "Coding at a Crossroads",
    "about.lifelongKindergartenBookLinkText": "Lifelong Kindergarten",
    "about.annualReportLinkText": "Adroddiad Blynyddol",
    "about.support": "Cefnogaeth a Nawdd",
    "about.supportDescription": "Mae Scratch ar gael am ddim diolch i gefnogaeth hael {donorsLink}. Mae'r gefnogaeth hon yn ein cynorthwyo i ddarparu cyfleoedd i blant o amgylch y byd i ddychmygu, creu a rhannu. Gallwch gefnogi Scratch drwy wneud rhodd {donateLink}.",
    "about.donorsLinkText": "cyfranwyr",
    "about.donateLinkText": "yma",
    "about.donateButton": "Rhoi"
}